Ciw-restr

Macbeth

Llinellau gan Y Ddewines Gyntaf (Cyfanswm: 33)

 
(1, 1) 8 Pa bryd y down ni eto'n tair
(1, 1) 9 Ai mewn taranau, mellt a glaw?
 
(1, 1) 13 Ym mha lannerch?
 
(1, 1) 16 Dyma fi, Lwyd Gath y Coed!
 
(1, 3) 66 Palo y buost ti, chwaer?
 
(1, 3) 69 Gwraig morwr oedd a'i glin yn llawn o gnau,
(1, 3) 70 A hithau'n cnoi a chnoi, gofynnais "dyro beth;"
(1, 3) 71 "Dos ymaith, wrâch," medd hithau'r faeden lwth.
(1, 3) 72 I Aleppo'r aeth ei gŵr, yn feistr ar y Teigr;
(1, 3) 73 Ond yno hwyliaf gyda hoel,
(1, 3) 74 Ac wedyn, fel llygoden foel,
(1, 3) 75 Mi wnâf, mi wnâf ac mi wnâf.
 
(1, 3) 77 Dyna dda!
 
(1, 3) 79 Gennyf i mae'r llall fy hun,
(1, 3) 80 Chwythant ar y pyrth i gyd
(1, 3) 81 Gwyddant bob rhyw borth o'r byd
(1, 3) 82 Ar ei gwmpas oll y sydd.
(1, 3) 83 Bydd ef mor grin â'r gweiryn rhos,
(1, 3) 84 Ni ddaw cwsg na dydd na nos
(1, 3) 85 Ar ei amrant i roi saib,
(1, 3) 86 Dyn a roed fydd dan ei raib;
(1, 3) 87 Blin wythnosau, naw gwaith naw,
(1, 3) 88 Nychu bydd yn brudd mewn braw;
(1, 3) 89 Er nad eith ei long i lawr,
(1, 3) 90 Hyrddir gan y dymestl fawr,
(1, 3) 91 Gwelwch beth sy gennyf i.
 
(1, 3) 93 Bawd y gŵr y boddwyd ef
(1, 3) 94 Wrth ddychwelyd tua thref.
 
(1, 3) 114 Henffych, Macbeth!
(1, 3) 115 Henffych, Bendefig Glamis!
 
(1, 3) 125 Henffych!
 
(1, 3) 129 Llai na Macbeth, a mwy.
 
(1, 3) 132 Banquo a Macbeth, hanffoch well!